Arestio wyth yn dilyn ymosodiad honedig yr Wyddgrug
- Cyhoeddwyd

Mae cyfanswm o wyth o bobl wedi eu harestio yn dilyn ymosodiad difrifol honedig yn Nant Garmon yn Yr Wyddgrug ar 5 Ionawr.
Cafodd tri o ddynion, sydd ddim yn dod o'r ardal leol, eu harestio a'u holi gan yr heddlu ddydd Gwener.
Mae'r tri wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth, yn ogystal â phump arall sydd hefyd ar fechnïaeth.
Mae'r dyn 46 oed wnaeth ddioddef yr ymosodiad yn dal yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.
Mae'r heddlu yn parhau i geisio dod o hyd i Michael Cullen, sy'n 31 ac o bentref Coed-llai, Yr Wyddgrug, ac maent yn apelio am wybodaeth gan y cyhoedd.
Yn ôl swyddogion gallai fod yn ardal Lerpwl.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Simon Williams: "Rydyn ni'n awyddus i atgoffa'r cyhoedd i beidio herio na mynd at Cullen, ond i roi gwybod i Heddlu'r Gogledd os ydynt yn ei weld trwy ffonio 101 gan roi'r cyfeirnod V002209."