Yr Arglwydd Carlisle yn gadael ei blaid yn Nhŷ’r Arglwyddi
- Cyhoeddwyd

Mae cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yr Arglwydd Alex Carlisle QC wedi gadael y blaid yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Roedd yr Arglwydd Alex Carlisle yn Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn rhwng 1983 tan 1997.
Treuliodd ddegawd fel adolygydd llywodraeth y DU ar derfysgaeth.
Cafodd ei fagu yng ngogledd Cymru a Swydd Gaerhirfryn ac fe'i gwnaed yn arglwydd am oes yn 1999.
Mae wedi dweud wrth y BBC nad ydi o bellach yn arglwydd ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol.
Doedd ganddo unrhyw sylwadau pellach i'w gwneud.
Mae ei broffil bellach wedi ei dynnu i lawr oddi ar wefan y Democratiaid Rhyddfrydol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol: "Rydym yn siomedig ond ddim wedi synnu at benderfyniad yr Arglwydd Carlisle.
"Mae wedi bod yn tynnu'n groes i bolisïau'r blaid ar nifer o achlysuron yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig dros hawliau sifil.
"Rydym yn ddiolchgar am ei flynyddoedd o wasanaeth i'r blaid ac yn dymuno'n dda iddo yn y dyfodol."