Arestio dyn arall ar amheuaeth o lofruddio dyn
- Cyhoeddwyd

Mae dyn arall wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 41 oed yng Nghasnewydd.
Roedd Jan Jedrzejewski yn byw yn ardal Casnewydd.
Cafodd dau ddyn 18 ac 17 oed eu harestio hefyd ar amheuaeth o lofruddio nos Wener.
Dywedodd Heddlu Gwent bod y dyn wedi ei ddarganfod yn anymwybodol ar Heol Keene yn y ddinas am tua 23:00 ar 12 Ionawr.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent ond bu farw yn ddiweddarach.

Mae blodau wedi eu gosod ar y stryd
Mae'r tri dyn wedi eu cadw yn y ddalfa wrth i'r ymchwiliad barhau.
Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Glyn Fernquest nad oedd swyddogion yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad ond maent yn apelio am wybodaeth gan y cyhoedd.
Mae'r Heddlu eisiau siarad gyda merch ifanc oedd yn cerdded ar hyd Heol Keene tuag adeg y digwyddiad a gyda bachgen ifanc oedd ar ei feic ar ffordd Cromwell sydd gyferbyn a Heol Keene.
Cafodd car arian 4 drws ei weld yn troi i mewn i'r stryd ar ôl y digwyddiad ac mae'r heddlu hefyd yn awyddus i siarad gyda'r gyrrwr neu'r rhai oedd yn y car os welon nhw unrhywbeth.