Llifogydd wedi i bibell ddŵr dorri ym Mhowys

Mae pibell ddŵr wedi torri ym mhentre' Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys, gan effeithio nifer o dai yn yr ardal.

Dywedodd Gwasanaeth Tan ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru bod criwiau Llanfyllin a Llanfair Caereinion yn delio gyda llifogydd yn yr ardal.