Cynghorydd yn pryderu am gyflwr pibell ddŵr
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorydd ym Mhowys wedi dweud bod ganddo "bryderon difrifol" ynglŷn â chyflwr pibell ddŵr a dorrodd uwchben pentref Llanrhaeadr ym Mochnant ddydd Gwener.
Fe orlifodd dŵr i tua 40 o dai yn y pentref nos Wener ac mae 12 o deuluoedd wedi treulio'r noson mewn gwestai gwely a brecwast.
Mae'r bibellau yn mynd a dŵr o Lyn Efyrnwy i Groesoswallt.
Ond ddydd Sadwrn roedd modd gweld darn o un o'r pibelli ar waelod ceudwll 3 metr o hyd.
'Clamp o dwll'
Cafodd y ceudwll ei greu wrth i ddŵr lifo o'r bibell gan olchi'r pridd i ffwrdd gan achosi twll un metr o hyd.
Yn ôl United Utilities, sydd yn gyfrifol am y bibell, maen nhw'n cynnal a chadw'r pibellau yn yr ardal yn gyson a bydd ymchwiliad trylwyr yn digwydd.
Dywedodd y cynghorydd lleol Aled Davies ei fod wedi bod i weld y bibell a dorrodd ei hun.
"Mae clamp o dwll yn ganol y cae lle mae'r dŵr wedi tywallt allan o'r bibell.
"Clamp o beip, 42 inch, cast iron, a hwnnw wedi chwythu. A dyna ydw i'n poeni amdano.
"Mae'r peib yma yn chwythu rhwng Croesoswallt a Pen-y-bont Fawr yn gyson ac yn anffodus ddoe chwythu at Lanrhaeadr a dŵr wedi cael ei olchi mewn i'r pentref.

"Dw i'n poeni braidd gall hyn ddigwydd eto a tro nesaf gallai fod yn waeth, wyrach dod a phridd lawr i'r pentref neu gwneud llawer fwy o ddifrod."
Mae Sean Robinson o'r cwmni United Utilities yn dweud bod rhaglen drwyadl o waith cynnal a chadw ar y pedair pibell sy'n cludo dŵr o Lyn Efyrnwy, gydag pheiriannwyr yn eu hasesu'n gyson.
'Ymchwiliad trylwyr'
"Rydym yn ymwybodol ei bod wedi gollwng yn y gorffennol a byddwn yn cynnal ymchwiliad trylwyr i'r digwyddiad ddoe i atal rhywbeth tebyg yn y dyfodol.
"Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra ac yn ceisio trwsio'r difrod mor fuan ag sy'n bosib."
Mae'r cwmni hefyd am roi £250 o iawndal fel arwydd o ewyllys da i bobl gafodd eu heffeithio ac mae gweithwyr o'r cwmni wedi bod yn y pentref yn helpu i glirio'r llanast.
