Diffyg gwerthfawrogiad o wirfoddolwyr medd adroddiad
- Cyhoeddwyd

Gwirfoddolwyr sydd yn gyfrifol am ganolfan gymunedol parc Sgeti
Mae gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol sydd wedi cymryd perchnogaeth o wasanaethau Cyngor Abertawe yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu gwerthfawrogi meddai adroddiad.
Cafodd yr adroddiad ei wneud er mwyn adolygu sut y gallai'r cyngor helpu trigolion i fod yn gyfrifol am wasanaethau o fewn eu cymunedau.
Mae tua 75 gwasanaeth erbyn hyn yn cael eu rhedeg gan grwpiau ac mae'r adroddiad sydd wedi ei gyflwyno i gabinet y cyngor yn dweud bod angen gwneud mwy i gydnabod y gwaith da.
Ar hyn o bryd mae 39 o ganolfannau cymunedol yn cael eu rhedeg gan bwyllgorau gwirfoddol yn y sir a 6 clwb bowliau.
Mae 30 o grwpiau gwirfoddol hefyd yn gweithio gyda'r cyngor er mwyn gwneud gwaith fel clirio sbwriel, gwaith cynnal a chadw a threfnu digwyddiadau.
10 argymhelliad
"Pan oedden ni yn casglu tystiolaeth, y neges gyson oedden ni yn clywed oedd bod nifer o wirfoddolwyr yn y gymuned a grwpiau cymunedol ddim yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu cymuned na'r cyngor," meddai'r adroddiad.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod yna bryderon am safon y gwasanaeth os nad yw'r cyngor ynghlwm â'r gwasanaeth ac os bydd rhai prosiectau yn gallu parhau yn yr hir dymor oherwydd oedran y gwirfoddolwyr.
10 argymhelliad sydd yn yr adroddiad ac maent yn cynnwys creu gwobrau ar gyfer gwirfoddolwyr yn ystod seremoni flynyddol yr Arglwydd Faer.
Dywedodd, Mark Child, sydd yn aelod o gabinet y cyngor bod grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yn hanfodol a bod ganddynt enw da.