Dyn ar goll: Heddlu'r De wedi darganfod corff
- Cyhoeddwyd

Mae heddlu sydd wedi bod yn chwilio am ddyn ar goll o Ferthyr Tudful wedi cadarnhau eu bod wedi darganfod corff.
Doedd Keith Davies, 56 oed o Droedyrhiw, heb gael ei weld ers iddo adael ei gartref am tua 12:00 ddydd Sadwrn.
Roedd Heddlu De Cymru wedi apelio am wybodaeth yn dilyn ei ddiflaniad.
Fe wnaeth y llu gadarnhau ddydd Llun bod y corff wedi'i ddarganfod ond nad yw wedi cael ei adnabod yn ffurfiol.
Mae'r heddlu wedi rhoi gwybod i deulu Mr Davies am y darganfyddiad.