Aelodau Cynulliad yn pleidleisio ar Fesur Cymru
- Cyhoeddwyd

Bydd Aelodau Cynulliad yn pleidleisio ddydd Mawrth ar os ydyn nhw am gefnogi cam nesaf datganoli, sy'n cael ei amlinellu ym Mesur Cymru.
Mae'r mesur yn addo pwerau newydd i Gymru, ond mae rhai wedi ei feirniadu am leihau datganoli ar rai pynciau.
Fe wnaeth Llafur - plaid fwyaf y Cynulliad gyda 29 o'r 60 sedd - gytuno ddydd Llun i gefnogi'r mesur.
Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud y byddan nhw'n ei gefnogi hefyd, tra bo UKIP yn ei wrthwynebu am nad ydyn nhw'n credu y dylai pwerau ar dreth incwm gael eu datganoli heb refferendwm.
Fe fydd Plaid Cymru'n pleidleisio yn erbyn y mesur yn dilyn penderfyniad yn gynharach ddydd Mawrth yn ystod cyfarfod o grŵp y blaid. Er bod Sian Gwenllian, Simon Thomas ac Elin Jones wedi pleidleisio o blaid, fe wnaeth gweddill aelodau'r grŵp o 11 wrthwynebu'r cam yma.
Yn dilyn pleidlais y grŵp, dywedodd Dai Lloyd, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, fod y mesur yn "gam sylweddol yn ôl mewn grymoedd a dyna pam yr ydym yn pleidleisio yn erbyn y mesur".
Mae cyn-arweinydd y blaid, yr Arglwydd Wigley wedi rhybuddio y byddai setliad datganoli Cymru yn parhau'n "llawer gwannach" na rhai'r Alban a Gogledd Iwerddon.
Grymoedd
Mae Mesur Cymru yn cynnig ymestyn pwerau datganoledig ar dreth, ynni, trafnidiaeth a materion y Cynulliad ei hun.
Mae hefyd yn cyflwyno system o bwerau sydd wedi'i gadw yn San Steffan - fel amddiffyn a materion tramor - gyda phob mater arall yn cael ei dderbyn fel ei fod wedi'i ddatganoli.
Ond mae'r mesur wedi cael ei feirniadu am fod yn aneglur ac am leihau pwerau'r Cynulliad i ddeddfu ar rai materion o bosib.
'Cam ymlaen'
Dywedodd cadeirydd y grŵp Llafur, Hannah Blythyn mai "nid dyma'r mesur y bydden ni wedi ei ddatblygu, ac nid dyma'r mesur y mae Cymru'n ei haeddu".
"Ond ar ôl pwyso a mesur, fe fydd y mesur yma'n rhoi mwy o bendantrwydd cyfansoddiadol, ac mae'r fframwaith ariannol yn enwedig yn cynrychioli cam mawr ymlaen," meddai.
Mae cymeradwyo Mesur Cymru yn bwysig er mwyn sicrhau grymoedd y Cynulliad mewn cyfnod o ansicrwydd, yn ôl y Farwnes Eluned Morgan AC

Beth yw Mesur Cymru?

Fe fyddai'r mesur yn cyflwyno system o bwerau sydd wedi eu dal yn ôl yn San Steffan, ond mae'r beirniaid yn dweud ei fod yn aneglur ac y gallai arwain at droi'r cloc yn ôl ar elfennau o ddatganoli.
Ymhlith y pwerau newydd yn y mesur mae:
Rhywfaint o bwerau ar reoli treth incwm, heb orfod galw refferendwm;
Pwerau newydd i'r Cynulliad dros ei materion ei hun - megis etholiadau ac enw'r sefydliad;
Pwerau newydd mewn meysydd fel ynni a thrafnidiaeth.

O dan gonfensiwn gwleidyddol rhwng y Cynulliad a San Steffan, mae'n rhaid i Fesur Cymru gael cymeradwyaeth ym Mae Caerdydd cyn y gall ddod yn gyfraith.
Mae hyn oherwydd bod y mesur yn ymwneud â materion datganoledig.
Does gan y confensiwn ddim pŵer cyfreithiol, ond mae gweinidog Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne wedi dweud na fyddai'r mesur yn dod yn gyfraith heb gymeradwyaeth gan y Cynulliad.