Abertawe yn arwyddo Martin Olsson o Norwich City
- Cyhoeddwyd

Mae Olsson wedi ennill 40 cap dros Sweden, ac fe chwaraeodd yn Euro 2016
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo'r amddiffynnwr Martin Olsson o Norwich City.
Bydd Olsson, 28, yn debygol o gystadlu gyda Neil Taylor a Stephen Kingsley i chwarae yn safle'r cefnwr chwith.
Y gŵr o Sweden yw'r ail chwaraewr i gael ei arwyddo gan reolwr newydd yr Elyrch, Paul Clement yn dilyn yr asgellwr Luciano Narsingh.
Mae Olsson wedi arwyddo cytundeb am ddwy flynedd a hanner gydag opsiwn am flwyddyn ychwanegol, ond dyw'r clwb heb gadarnhau beth oedd y ffi a dalwyd.