'Siom' cefnogwyr Cymru dros docynnau gêm Iwerddon
- Cyhoeddwyd

Bydd yr ornest rhwng y ddau dîm yn cael ei chwarae yn Stadiwm Aviva ar 24 Mawrth
Mae rhai o gefnogwyr pêl-droed Cymru wedi mynegi eu siom ynglŷn â'r dosraniad tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018.
Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fanylion tocynnau i gefnogwyr Cymru ar gyfer yr ornest yn Nulyn ar 24 Mawrth.
Bydd 3,300 o docynnau ar gael i gefnogwyr Cymru eu prynu am £44 yr un.
Mae rheolau UEFA yn dweud ei bod yn ofynnol i'r wlad sy'n chwarae gartref ddarparu rhwng 5-10% o gyfanswm holl seddau'r stadiwm i gefnogwyr y wlad sy'n ymweld.
Ar hyn o bryd mae'r Gwyddelod ar frig y grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd, gyda 10 pwynt, tra bod Cymru'n drydydd â chwe phwynt.
Prisiau yn 'siom'
Mae Rhys Hartley o Gaerdydd yn fyfyriwr gwleidyddiaeth yn Llundain, ac mae wedi bod yn dilyn Cymru ers yn blentyn.
Dywedodd Mr Hartley wrth BBC Cymru Fyw ei fod wedi cael dipyn o "sioc" a'i fod yn "siomedig" pan glywodd mai dim ond 3,300 o docynnau y bydd cefnogwyr Cymru yn eu derbyn.
"Roeddwn i ar ddeall y bydda' ni'n cael 10% o gyfanswm y tocynnau, dyna yw'r ddealltwriaeth pan mae cefnogwyr yn dod i Gymru.
"Mae Stadiwm Aviva yn Nulyn yn dal 51,700 o bobl, ac fe fyddai 10% o'r cyfanswm hwnnw yn golygu dros 5,000 o docynnau i gefnogwyr Cymru.
"Mae prisiau'r tocynnau hefyd wedi fy siomi ar gyfer gêm Iwerddon.
"Efallai ein bod wedi cael ein sbwylio dros y blynyddoedd diwethaf gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, gyda thocynnau ar gyfer y gemau cartref yn costio £20 yr un.
"Dwi bron iawn a stopio gwylio pêl-droed proffesiynol ar lefel clybiau yn ddiweddar oherwydd y cynnydd aruthrol ym mhrisiau tocynnau, a tydw i ddim isho'r un peth ddigwydd mewn gemau rhyngwladol."
Ni fydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwneud sylw ar y mater. Mae Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon wedi cael cais i ymateb.