Caerdydd yn arwyddo'r golwr Allan McGregor ar fenthyg
- Cyhoeddwyd

Mae Allan McGregor wedi ennill 35 cap dros yr Alban
Mae Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod wedi arwyddo golwr Hull City, Allan McGregor ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.
Mae McGregor, sy'n 34 oed, wedi ennill 35 cap dros yr Alban ond mae eto i chwarae yn y gôl i'w glwb y tymor hwn.
Fe ymunodd gyda Hull am £1.5m o glwb Beşiktaş yn Nhwrci yn 2013.
Dywedodd rheolwr Caerdydd, Neil Warnock yn gynharach yn yr wythnos ei fod yn awyddus i arwyddo golwr gyda phrofiad yn yr Uwch Gynghrair cyn y gêm yn erbyn Burton Albion ddydd Sadwrn.