Disgwyl i garchar Wrecsam agor ym mis Chwefror
- Cyhoeddwyd

Argraff artist o garchar y Berwyn yn Wrecsam
Mae disgwyl y bydd carchar newydd Wrecsam, HMP Berwyn yn agor ac yn derbyn y carcharorion cyntaf ddiwedd mis Chwefror.
Carchar HMP Berwyn fydd y mwyaf ym Mhrydain pan fydd yn agor yn llawn, a bydd yn gartref i dros 2,000 o droseddwyr.
Bydd y carchar newydd yn creu 1,000 o swyddi ac yn denu £23m i'r ardal, yn ôl Llywodraeth Prydain.
Fe ddechreuodd y gwaith adeiladu yn haf 2015 ar yr hen safle Firestone yn Stad Ddiwydiannol Wrecsam.
Bydd y carchar yn cynnwys tri bloc preswyl yn dal tua 700 o garcharorion yr un.
Yng nghanol y safle fe fydd yna ddau ganolfan addysg a hyfforddiant.
Bydd canolfan iechyd, canolfan chwaraeon, canolfan aml-ffydd a ffreutur hefyd yn rhan o'r datblygiad.
Mae disgwyl i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder gadarnhau'r agoriad yn swyddogol maes o law.