Pwyllgor Brexit: Angen lleddfu 'pryderon'
- Cyhoeddwyd

Mae angen i Lywodraeth y DU roi sicrwydd i weinidogion Cymru bod eu barn am Brexit yn gwneud gwahaniaeth, yn ôl Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford.
Dywedodd Mr Drakeford bod gan llywodraethau Cymru a gwledydd eraill "bryderon" am fforwm gafodd ei chreu i drafod Brexit.
Fe wnaeth y fforwm yma, Y Cyd-bwyllgor Gweinidogion - sy'n cynnwys llywodraethau'r DU a'r gwledydd datganoledig - gynnal cyfarfod "cadarn" yn Whitehall ddydd Iau, meddai Mr Drakeford.
Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, roedd yn gyfarfod "adeiladol": "Fe wnaeth hyd yn oed Llywodraeth Cymru dderbyn heddiw nad yw'r iaith gafodd ei ddefnyddio gan y prif weinidog yn gynharach yn yr wythnos am gytundeb masnach rydd yn anhebyg i'r iaith maen nhw wedi ei drafod.
"Mae hyn yn profi bod llawer o dir cyffredin ond dydw i ddim yn tanbrisio'r heriau sydd yma."
'Gwneud gwahaniaeth'

Dywedodd Mark Drakeford fod angen i farn Llywodraeth Cymru "wneud gwahaniaeth" yn y trafodaethau
Yn y cyfarfod, fe wnaeth aelodau drafod adroddiadau gan lywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon, a dywedodd Mr Drakeford y byddai adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, a'i drafod fis nesaf.
Dywedodd bod y llywodraethau datganoledig angen sicrwydd bod y fforwm yn "cael effaith ar y ffordd mae Llywodraeth y DU yn paratoi ac yn mynd i mewn i'r trafodaethau ar ôl Mawrth".
Ychwanegodd bod angen cadarnhad gan weinidogion San Steffan "nad ydyn ni yma i roi ein barn yn unig, ond bod y farn yna yn mynd ymlaen i wneud gwahaniaeth".
Dywedodd ysgrifennydd Brexit y DU bod angen cydweithio i "fanteisio ar y cyfleoedd mae gadael [yr UE] yn ei gynnig".
Ychwanegodd David Davies: "Byddwn yn defnyddio'r syniadau a dadansoddiad o gyfarfod heddiw i baratoi ein gwaith i sicrhau cynllun i adael [yr UE] sy'n gweithio i'r DU gyfan."
Er i Sinn Fein ddweud y gallai aelodau adael y broses, dywedodd Mr Drakeford y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau.