Alun Ffred Jones: Y Cyngor Llyfrau â lle i bryderu
Mae pryderon am ddyfodol y Cyngor Llyfrau yn sgil adolygiad sy'n edrych ar y diwydiant cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru.
Yn ôl un cyn-weinidog diwylliant, mae Llywodraeth Cymru yn "amheus" o sefydliadau cenedlaethol annibynnol.
Daeth sylwadau Alun Ffred Jones ar ôl iddi ddod i'r amlwg y bydd yr adolygiad bum mis yn hwyr yn adrodd yn ôl.