Cyhoeddi manylion cynllun Dinas-Ranbarth Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae manylion y cynllun i sefydlu dinas-ranbarth yn y de-ddwyrain wedi cael eu cyhoeddi.
Os yw'r 10 cyngor yn y rhanbarth yn cymeradwyo'r fenter, bydd dros £1.2bn yn cael ei fuddsoddi fel rhan o Fargen Dinas-Ranbarth Caerdydd.
O'r cyfanswm hwnnw, fe fyddai £734m yn mynd tuag at Metro De Cymru, gyda £495m i brosiectau eraill.
Bydd y cynghorau unigol yn pledleisio ar y cynllun yn yr wythnosau nesaf.
Ymrwymiad pum mlynedd
O dan y cynlluniau, fe fyddai'r cynghorau'n gorfod ymrwymo i'r fargen am bum mlynedd, ac rhyngddyn nhw, fe fyddai'r awdurdodau lleol yn cyfrannu £120m tuag at y fargen.
Mae cyfraniad y cynghorau unigol yn dibynnu ar eu poblogaeth - felly bydd Cyngor Caerdydd yn cyfrannu dros 23% o'r £120m.
Pe bai unrhyw gyngor eisiau cefnu ar y fargen, byddai'n rhaid i'r sir dalu costau a dyledion.
Llywodraethau Cymru a'r DU sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r £1.3bn.
Cabinet lleol
Fel rhan o'r fargen, bydd cabinet lleol yn cael ei sefydlu o 1 Mawrth i ddatblygu prosiectau posib a chreu cynllun busnes.
I ddechrau, bydd y cabinet yn gwario arian o goffrau Llywodraeth y DU.
Dywedodd rhai cynghorwyr Llafur yng Nghaerdydd eu bod yn siwr bod y telerau yn rhoi cyfle i gynghorau i gefnu ar y fargen os nad ydyn nhw'n gallu cytuno ar brosiectau.