Gobeithio codi 'dros £350,000' i'r Eisteddfod ym Môn
- Cyhoeddwyd

Derec Llwyd Morgan yw cadeirydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn eleni
Mae cadeirydd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd trigolion lleol yn codi mwy o arian na'u targed gwreiddiol ar gyfer y Brifwyl eleni.
Daeth sylwadau Derec Llwyd Morgan yn dilyn cadarnhad bod Cronfa Leol yr ynys wedi cyrraedd eu targed o godi £325,000, a hynny dros chwe mis yn gynt na'r nod a osodwyd.
Ychwanegodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts fod "brwdfrydedd a gwaith caled trigolion Môn wedi bod yn arbennig" a'u bod yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ger Bodedern ym mis Awst ac yn costio tua £3.5m, ac mae disgwyl iddi ddenu dros 150,000 o ymwelwyr i'r ardal.
Dywedodd yr Athro Morgan fod yr ymdrechion codi arian, drwy ddigwyddiadau megis gigiau, cyngherddau a nosweithiau llawen, wedi magu cenhedlaeth newydd o bobl fyddai'n parhau i fod yn weithgar.
"Mae ambell ardal sydd yn dal heb godi'r swm a nodwyd iddyn nhw, ond mae rhyw 20 ardal wedi casglu mwy na'r hynny a ofynnwyd," meddai wrth BBC Cymru Fyw.

Cafodd y Brifwyl ei chynnal yn Sir Fynwy y llynedd - oedd yn cynnwys pafiliwn newydd
"Mi ddaw 'na beth arian o'r rheiny dros yr wythnosau nesaf, a 'dan ni'n disgwyl y bydd dros £350,000 wedi'i gasglu erbyn y diwedd. Dim ond 10% o'r arian ar gyfer yr Eisteddfod yw hynny wrth gwrs, ond mae pob ceiniog yn cyfrif.
"Mae gennym ni rŵan griw o bobl sydd efo'r arbenigedd yna o ran gallu codi arian at ddigwyddiadau ac elusennau.
"Un o'r pethau dwi'n gobeithio fyddan nhw'n gadael ar ôl fydd gweithlu fydd yn fodlon dod at ei gilydd i drefnu pethau, byddin o bobl ifanc a chanol oed yn codi arian, a gobeithio y byddan nhw'n dal i weithio'n gymdeithasol a diwylliannol ymhell wedi i'r Eisteddfod fod yma."
Ychwanegodd Elfed Roberts: "Mae'r Gronfa Leol a'r cyswllt cymunedol a chymdeithasol sy'n deillio o'r gweithgareddau'n rhan greiddiol o waith yr Eisteddfod yn lleol dros gyfnod o bron i ddwy flynedd cyn wythnos yr Eisteddfod, a'r gobaith yw y bydd yn esgor ar ragor o ddigwyddiadau Cymraeg mewn ardal yn y dyfodol ar ôl cynnal yr Eisteddfod.
"Mae gallu a phrofiad pobl Môn wrth drefnu a chynnal digwyddiadau wedi bod o gymorth arbennig i ni, ac mae wedi bod yn bleser gweld cynifer o weithgareddau'n digwydd yn enw'r Eisteddfod."