Arestio dyn ar amheuaeth o derfysgaeth yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru wedi dweud fod dyn 26 oed wedi cael ei arestio yn ardal Abertawe ddydd Iau ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud â therfysgaeth.
Cafodd y dyn ei arestio o dan Adran 41 o Ddeddf Derfysgaeth 2000 fel rhan o gyrch ar y cyd rhwng Uned Gwrth Derfysgaeth Eithafol Cymru (WECTU) ac Uned Gwrth Derfysgaeth y West Midlands.
Mae'r dyn yn cael ei holi mewn gorsaf heddlu yng nghanolbarth Lloegr.
Brynhawn Gwener, 20 Ionawr, mae ynadon wedi caniatáu gwŷs i gadw'r dyn yn y ddalfa am saith niwrnod ychwanegol.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran WECTU nad yw'r ymchwiliad yn ymwneud ag unrhyw fygythiad i ddiogelwch y cyhoedd ar hyn o bryd.