Seintiau Newydd yn bencampwyr Cwpan y Cynghrair

  • Cyhoeddwyd
New SaintsFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Y Seintiau Newydd yw Pencampwyr Cwpan Cymru

Sgoriodd Chris Seargeant deirgwaith i hawlio buddugoliaeth i'r Seintiau Newydd dros y Barri i ddod yn bencampwyr Cwpan y Cynghrair.

Er iddyn nhw reoli'r hanner cyntaf, methodd y Seintiau a thorri drwy linell gefn y Barri.

Tarodd Jordan Cotterill y trawst i'r Barri wedi'r toriad ond llwyddodd Seargeant i gyrraedd y nod yn ddiweddarach.

Adrian Cieslewicz sgoriodd yr ail gôl i'r Seintiau cyn i Seargeant sgorio ddwywaith yn rhagor i selio'r fuddugoliaeth a hawlio'r cwpan.

Y Seintiau Newydd 4-0 Y Barri.