Cyhuddo dyn o droseddau cyffuriau wedi cyrch Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Miskin yn ardal Cathays ddydd Iau
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dyn 18 oed o droseddau yn ymwneud â chyffuriau yn dilyn cyrch arfog yng Nghaerdydd.
Cafodd swyddogion eu hanfon i Stryd Miskin yn ardal Cathays y brifddinas ddydd Iau 19 Ionawr am tua 12:10.
Yn y cyrch fe wnaethon nhw arestio Ahmed Osman, dyn o Birmingham.
Mae Mr Osman yn wynebu cyhuddiadau o fod ag eiddo troseddol yn ei feddiant, bod ag arf ffug yn ei feddiant gyda'r bwriad o gyflawni trosedd, a bod â chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant gan gynnwys cocên a heroin.
Fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun ond ni wnaeth gyflwyno ple.
Mae wedi'i gadw yn y ddalfa nes yr ymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ar 20 Chwefror.