Annog penderfyniad 'yn fuan' ar forlyn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae Charles Hendry yn annog Llywodraeth y DU i godi morlyn ym Mae Abertawe i ateb gofynion ynni'r dyfodol
Mae cyn weinidog ynni yn annog Llywodraeth y DU i gefnogi'r cynllun i adeiladu lagŵn ym Mae Abertawe "yn fuan".
Mewn cyfweliad, dywedodd Charles Hendry y bydd "argyfwng go iawn" o ran cyflenwad ynni os nad oes buddsoddiad mewn cynlluniau arloesol fel y morlyn.
Ychwanegodd nad oedd e wedi gweld cymaint o frwdfrydedd ymysg busnesau a phobl leol tuag at brosiect o'r maint hwn.
Mae Llywodraeth y DU yn ystyried eu hymateb i arolwg blwyddyn o hyd - oedd dan arweiniad Mr Hendry - ar hyfywedd morlynnoedd llanw yn y DU.

Y morlyn yn Abertawe yw'r cyntaf o chwe morlyn arfaethedig ar draws y DU
Fe ddywedodd Mr Hendry nad oedd gweinidogion yn San Steffan yn dweud llawer yn gyhoeddus am eu safbwynt ar y morlynnoedd, ond mynnodd y byddai cefnogi'r cynlluniau o "fudd i'r genedl".
"Mae'n rhaid i ni benderfynu nawr sut 'dyn ni'n creu'r egni 'dyn ni'n gwybod y byddwn ei angen yn y 2020au," meddai.
"'Dyn ni'n gwybod bod ganddon ni £100bn i fuddsoddi mewn isadeiledd ynni newydd, ac os nad ydyn ni'n cychwyn y gwaith 'na, fe fydd ganddon ni argyfwng go iawn achos fydd 'na ddim galw.
"Felly os 'dyn ni eisiau gweld y buddsoddiad 'na, os 'dyn ni eisiau i'r gadwyn gyflenwi fuddsoddi mewn swyddi newydd, mae'n rhaid i ni roi signal iddyn nhw fynd yn eu blaenau.
"Fe allwn ni wastad ddisgwyl am rywbeth gwell i ddod, ond yn y diwedd mae'n rhaid mynd ar y bws - ac mae'n rhaid i chi ddweud 'dwi moyn cyrraedd 'na, dwi moyn mynd yno.' Ac os 'dych chi'n disgwyl trwy'r amser am y peth nesa', wnewch chi fyth ddechrau."

Mae Mr Hendry yn annog y cyhoedd i ysgrifennu at Theresa May ac aelodau eraill o Lywodraeth y DU i ddweud eu barn.
Bydd e'n cwrdd ag aelodau'r Cynulliad yn y Senedd i sôn am gasgliadau ei adolygiad.
Fe fydd wedyn yn anerch 80 o arweinwyr busnes a chynrychiolwyr cynghorau lleol yng Nghanolfan y Mileniwm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2017
