Cyhoeddi enillydd gwobr gelfyddydol Artes Mundi
- Cyhoeddwyd

Mae Bedwyr Williams yn gobeithio mai ef fydd yr enillydd cyntaf o Gymru
Bydd enw enillydd gwobr gelfyddydol gwerth £40,000 yn cael ei ddatgelu yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd nos Iau.
Mae chwe artist cyfoes wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Artes Mundi, gan gynnwys yr artist o Gymru, Bedwyr Williams.
Dyma'r seithfed tro i'r wobr gael ei rhoi.
Yn 2015 cafodd y wobr ei dyfarnu i Theaster Gates a rannodd y £40,000 gyda'r naw artist arall a gyrhaeddodd y rhestr fer.
Mae'r gystadleuaeth yn denu artistiaid o dros y byd, ac ymhlith y gwledydd a gynrychiolir eleni mae Libanus, Angola a'r UDA.
Eleni cafwyd 700 o enwebiadau ar gyfer y gystadleuaeth a hynny o 90 gwlad. Dyma'r tro cyntaf ers 2006 i artist o Gymru gyrraedd y rhestr fer.