Dyn ger bron llys wedi'i gyhuddo o droseddau terfysgol
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 26 oed o Abertawe wedi ymddangos ger bron Llys Ynadon Westminster wedi ei gyhuddo o fod â llyfrau ar sut i wneud bomiau a chyfarwyddiadau ar sut i drefnu ymosodiadau â chyllell.
Honnwyd bod gan Lee Edwards Griffiths, 26 oed o Abertawe, gasgliad o ddeunydd terfysgol gan gynnwys copïau o'r cylchgrawn Islamaidd Rumyiah a chopi o'r 'Anarchy Cookbook'.
Clywodd y llys hefyd bod ganddo gasgliad o fideos yn dangos carcharorion yn cael eu trywanu i farwolaeth ac yn cael eu chwythu gan ddyfais ffrwydrol a oedd wedi'i pharatoi adref.
Mae'n wynebu pum cyhuddiad o fod â gwybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol i rywun gyflawni neu baratoi gweithred derfysgol.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo fynd o flaen Llys yr Old Bailey ar 6 Chwefror.