Digwyddiadau i gofio'r Holocost yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws Cymru ddydd Gwener i nodi erchyllta'r Holocost. Y thema eleni yw'r cwestiwn 'Sut all bywyd barhau?'
Yn ôl trefnwyr y diwrnod, mae nifer o gwestiynau heriol i'w gofyn i unigolion, cymunedau a gwledydd am effaith hil-laddiad.
Yng Nghaerdydd fe fydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn mynychu gwasanaeth yn Neuadd y Ddinas - gwasanaeth a fydd yn cael ei arwain gan y Parchedig Ganon Stewart Lisk, Caplan anrhydeddus Cyngor y Ddinas.
"Braint o'r mwyaf," medd y Prif Weinidog, "yw sefyll ochr yn ochr â phobl ledled y byd wrth anrhydeddu'r bobl a wynebodd yr erchyllterau gwaethaf posibl.
"Mae dyletswydd arnom i gofio'r bobl a fu farw fel ein bod yn cofio pa mor ffodus rydym ni i gael byw mewn cymdeithas oddefgar a gwâr ac er mwyn sicrhau nad yw erchyllterau o'r fath byth yn digwydd eto."
'Gwrthsemitiaeth a hiliaeth yn parhau'
Disgwylir i gynrychiolwyr nifer o sefydliadau fod yn bresennol gan gynnwys Stonewall Cymru, Race Equality First a gwahanol aelodau o'r gymuned Iddewig.
Yn ogystal, bydd Eva Clarke, a oroesodd yr Holocost, yn siarad am ei hanes o fod yng ngwersyll Mauthausen yn 1945.
Ymhlith eraill a fydd yn nodi'r digwyddiad mae canolfan aml ffydd a diwylliant Y Morlan yn Aberystwyth.
Dywedodd rheolwr y ganolfan Carol Jenkins: "Bydd cyfle rhwng 12.30 a 2 a rhwng 4 a 6 i bobl ddod yma - boed i gynnau cannwyll neu i weddïo - mae e'n ddigwyddiad pwysig yng nghalendr y Morlan."
Bydd Heddlu Dyfed Powys yn nodi'r diwrnod drwy ostwng eu baneri. "Yn drist iawn," medd y Dirprwy Brif Gwnstabl, "nid yw gwrthsemitiaeth, hiliaeth na chasineb wedi diflannu.
"Mae'n bwysig ein bod yn nodi'r diwrnod fel heddlu er mwyn coffhau digwyddiadau trasig ac anrhydeddu goroeswyr."