Unicode yn cymeradwyo cyflwyno emoji fflag Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae emoji baner Cymru wedi cael sêl bendith gan y corff rhyngwladol sy'n eu datblygu.
Mae Unicode wedi cytuno i ychwanegu baneri Cymru, Yr Alban a Lloegr pan fydd y system yn cael ei diweddariad nesaf.
Bydd cwmnïau megis Apple, Google, Microsoft a Facebook wedyn â'r dewis o'u hychwanegu i'w systemau nhw.
Cafodd yr ymgyrch i sefydlu emoji baneri gwledydd Prydain ei ddechrau gan Jeremy Burge o Emojipedia a phennaeth cyfryngau cymdeithasol BBC Cymru, Owen Williams.
Ni fydd baner Gogledd Iwerddon wedi'i gynnwys, a hynny am nad oes ganddi statws swyddogol.
Mae disgwyl i'r tri emoji newydd fod ar gael erbyn yr haf.