Hwb o £13m i adran ymchwil Prifysgol Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Llun artist o'r ganolfan newydd yn yr Athrofa Ymchwil, Caerdydd
Dywed Prifysgol Caerdydd eu bod yn gobeithio y bydd buddsoddiad o £13m yn eu rhoi ar flaen y gad ym maes technolegau'r unfed ganrif ar hugain a gwaith ymchwil i dechnoleg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (Compound Semiconductors).
Bydd yr arian, sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd, yn cael ei ddefnyddio i helpu adeiladu ystafell lân yn yr Athrofa Ymchwil sydd wedi'i lleoli ar brif gampws y brifysgol, a darparu cyfarpar ar ei chyfer a'i rhedeg.
Yn ôl y brifysgol, bydd yr athrofa yn troi ei hymchwil yn y labordy yn gynnyrch a gwasanaethau drwy weithio gyda phartneriaid masnachol er mwyn cymryd rôl arweiniol mewn datblygu technolegau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford: "Bydd buddsoddi mewn cyfleusterau sydd ar flaen y gad fel bod y byd academaidd a diwydiant yn gallu cydweithio a symud gwaith ymchwil yn ei flaen yn y sector hwn yn hwb pwysig i economi Cymru.
"Bydd yr arian hwn gan yr UE yn annog mwy o swyddi o safon, gyda chyflogau da, ymysg y cwmnïau a fydd yn cymryd rhan.
"Bydd cwmnïau newydd yn deillio o'r gwaith hwn a mwy o fusnesau cwbl newydd yn cael eu dechrau.
"Yn ogystal â hynny, bydd cwmnïau lled-ddargludyddion cyfansawdd arloesol o bob cwr o'r Deyrnas Unedig ac Ewrop yn cael eu denu yma."