Her Cylchdaith Cymru: 'Dim beirniadaeth gan adroddiad'
Mae'r cerddor a'r wyneb adnabyddus tu cefn i Her Cylchdaith Cymru, Rhys Meirion, yn dweud fod nifer o bethau camarweiniol wedi eu dweud am ymdrechion yr elusen.
Mewn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru fe ddaeth hi i'r amlwg mai ychydig dros £1,000 o elw wnaeth y daith, er i dros £155,000 gael ei wario.
Dywedodd Rhys Meirion wrth raglen Newyddion9 ei fod o'r farn fod nifer o bethau camarweiniol wedi cael eu dweud yn sgil adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru.