Dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan fws yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 46 oed wedi marw ar ôl cael ei daro gan fws yn Abertawe.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A48 yn Nhreforys am 17:30 ddydd Gwener.
Bu farw'r dyn yn y fan a'r lle. Ni chafodd unrhyw un arall eu hanafu yn y digwyddiad.
Roedd y ffordd ar gau am gyfnod yn dilyn y digwyddiad, gan achosi oedi mawr yn yr ardal.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am unrhyw dystion i'r digwyddiad.