Lluniau: Darllen yn y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae' na awgrym bod nifer y bobl dros 16 oed sy'n darllen llyfrau Cymraeg ar gynydd.

Yn ôl ymchwil gan Beaufort Research ar ran Cyngor Llyfrau Cymru, roedd 24% o 1,005 o siaradwyr Cymraeg dros 16 oed gafodd eu holi yn darllen o leiaf un llyfr y mis o'i gymharu â 19% yn 2012 a 13% yn 2006.

Cafodd yr ymchwil ei gynnal rhwng y gwanwyn a'r hydref y llynedd.

Faint o lyfrau Cymraeg ydych chi yn eu darllen? Ydych chi'n cofio pori rhwng y cloriau eiconig yma?

line
Jabas - Penri Jones

Clawr eiconig i blant y 1980au gan yr artist Jac Jones. © Gwasg Dwyfor

line
I Botany Bay - Bethan Gwanas

Naws ramantaidd a chynnes sydd i'r clawr cyfoes hwn. © Y Lolfa

Y Blaned Dirion - Islwyn Ffowc Elis

Minimol a chosmig yw'r clawr i'r wyddonias glasurol hon. © Gwasg Gomer

line
Cyw Haul - Twm Miall

Celf Iwan Bala'n tynnu sylw at 'Cyw Haul'. © Y Lolfa

line
Cadwgan - Y Llygoden O'r Lleuad gan Elwyn Ioan

Sawl plentyn sydd ag atgofion melys o lygoden werdd Elwyn Ioan? © Y Lolfa

line
Dyddiadur Dyn Dwad - Goronwy Jones

Cwrw a digrifwch yng nghlasur y Dyn Dwad. © Gwasg Carreg Gwalch

line
Cerddi '72 - Gol. J. Eirian Davies

Seicedelia oedd y ffasiwn yn '72. © Gwasg Gomer

line
Y Dydd Olaf - Owain Owain

Mae clawr 'Y Dydd Olaf' yn sicr yn tynnu sylw.

line
Un Nos Ola Leuad - Caradog Pritchard

Llinellau eglur a phalet syml sy'n gwneud y clawr hwn mor drawiadol. © Y Lolfa

line
Sali Mali - Mary Vaughan Jones

Pwy all anghofio gwaith celf Rowena Wyn Jones, dylunydd gwreiddiol llyfrau Sali Mali? © Gwasg Gomer

line
line

Gallwch bori drwy filoedd o gloriau llyfrau Cymraeg eraill ar dudalennau y prosiect Gwales ar Wicipedia, dolen allanol.