'Digwyddiad difrifol' yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae peiriannydd sy'n gweithio i gwmni Western Power Distribution wedi cael ei gludo i'r ysbyty yn dilyn "digwyddiad difrifol" yng Nghaerdydd.
Roedd y dyn yn gwneud gwaith ar Heol Clevedon yn Llanrhymni, ac fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 11:55 ddydd Llun.
Cafodd y gweithiwr ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, ac mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cael ei hysbysu.
Fe gafodd Heol Clevedon ei gau am gyfnod er mwyn cynnal ymchwiliad.
Dywedodd llefarydd ar ran Western Power: "Mae ymchwiliad mewnol wedi dechrau ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r heddlu."