Prawf ffitrwydd i Taulupe Faletau cyn gêm Yr Eidal
- Cyhoeddwyd

Mae gan Taulupe Faletau, sydd yn chwarae i glwb Caerfaddon, 62 o gapiau dros Gymru
Bydd Taulupe Faletau yn wynebu prawf ffitrwydd ddydd Mercher i weld a fydd yn ffit i wynebu'r Eidal yng ngêm agoriadol Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Dim ond unwaith y chwaraeodd yr wythwr yng ngemau rhyngwladol yr hydref, a dyw e heb chwarae unrhyw rygbi ers cyn y Nadolig oherwydd anaf i'w ben-glin.
Os nad yw'n holliach mae'n debyg mai Ross Moriarty fyddai'n cael ei ddewis yn y rheng ôl gyda Sam Warburton a Justin Tipuric.
"Os nad yw e'n ffit [ar gyfer gêm Yr Eidal], gobeithio y bydd e'n ffit i wynebu Lloegr [wythnos yn ddiweddarach]," meddai hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards.
Bydd prif hyfforddwr Cymru, Rob Howley yn enwi'r tîm ddydd Iau ar gyfer yr ornest yn Stadiwm Principality brynhawn Sul.