Ysgolion Cymru yn aros am gyhoeddiad categorïau
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth 333 o ysgolion gael eu rhoi yn y categori gwyrdd y llynedd
Bydd y rhestrau diweddara' o gategorïau ysgolion yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach heddiw.
Mae pob ysgol yn cael ei rhoi mewn categori lliw sy'n mynd o wyrdd, i felyn, oren a choch.
Hon yw'r drydedd flwyddyn i'r drefn yma o raddio ysgolion gael ei defnyddio.
Y llynedd, fe lwyddodd 333 o ysgolion cynradd ac uwchradd i gyrraedd y prif gategori, y categori gwyrdd - cynnydd o 41% ar y flwyddyn flaenorol.
Fe wnaeth nifer yr ysgolion yn y categori coch, yr ysgolion oedd angen dangos mwyaf o gynnydd, ostwng o 81 i 58.
Adroddiad Estyn
Mae Llywodraeth Cymru yn credu fod y drefn o gategoreiddio yn helpu i ddod o hyd i'r ysgolion sydd angen mwyaf o help, ac i gynnig cymorth a chyngor iddyn nhw.
Fe fydd canlyniadau 2016 yn cael eu cyhoeddi ar wefan Fy Ysgol Leol, dolen allanol.
Daw'r ffigyrau diweddara' wythnos ar ôl i'r corff arolygu Estyn gyhoeddi eu hadroddiad blynyddol.
Dywedodd yr adroddiad fod saith allan o bob 10 ysgol gynradd "yn dda neu yn well" ond fod y ffigwr yn gostwng i bedwar o bob 10 ar gyfer ysgolion uwchradd.
Mae undebau athrawon yn gyffredinol wedi rhoi croeso gofalus i'r drefn, cyn belled â'i bod yn cael ei ddefnyddio fel trefn ehangach o werthuso ysgolion.

Mae'r undebau wedi rhoi croeso gofalus i'r drefn o gategoreiddio ysgolion
Dywedodd Rob Williams o undeb y prifathrawon NAHT Cymru: "Rydym dal yn credu er mwyn i'r drefn o gategoreiddio weithio orau, mae angen iddo fod yn rhan o system ehangach sydd wedi ei gydlynu er mwyn gwella ysgolion.
"Fel y gwnaeth Estyn danlinellu yn eu hadroddiad diweddar, mae yna amrywiaeth perfformiad yn dal yn bodoli ar draws Cymru, a dyw'r ffocws ychwanegol ar ysgolion yn y categorïau oren a choch ddim yn cuddio'r gwahaniaeth cyllido sy'n bodoli rhwng ysgolion.
"Rydym yn gwybod fod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar arweinwyr ysgolion a'u pryderon am system sy'n defnyddio data o'r fath mewn modd ynysig, a heb nodi'r cynnydd mae disgyblion unigol yn gwneud tra yn yr ysgol."
Mae'r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion, dolen allanol wedi ei gytuno ar y cyd rhwng yr awdurdodau addysg a Llywodraeth Cymru gyda'r gosodiad mai nid diben y system yw gosod labeli na llunio tablau cynghrair moel.