Diwrnod 'Amser i Siarad' i daclo stigma iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch genedlaethol sy'n ceisio taclo'r stigma sy'n gallu bodoli wrth drafod iechyd meddwl yn annog pobl Cymru i gael sgwrs am y pwnc ar Ddiwrnod Amser i Siarad, 2 Chwefror 2017.
Yr ymgyrch, Amser am Newid Cymru, yw'r cyntaf i geisio mynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Mae Diwrnod Amser i Siarad wedi cael ei gynnal yn flynyddol ers 2014, gyda'r nod o dorri rhai o'r rhwystrau sy'n gysylltiedig â iechyd meddwl.
Fe fydd un person o bob pedwar yn cael problem iechyd meddwl ar ryw adeg yn eu bywyd, ac mae naw o bob deg o'r rheiny yn dweud iddyn nhw brofi stigma a gwahaniaethu oherwydd eu cyflwr.
Mae'r ymgyrch eisiau i bobl drafod y pwnc yn fwy rhwydd er mwyn herio rhai agweddau negyddol sydd gan bobl, ac i helpu pobl i sylweddoli bod iechyd meddwl cyn bwysiced a iechyd corfforol, ac y dylai felly gael ei drin yr un fath.

Mewn datganiad dywedodd Amser am Newid Cymru: "Mae cael problem iechyd meddwl yn ddigon anodd, ond weithiau gall yr arwahanrwydd a'r stigma ei gwneud hyd yn oed yn waeth.
"Ond gallwn ni gyd helpu i dorri'r tawelwch. Does dim angen i siarad am iechyd meddwl fod yn anodd, a gallai wneud gwahaniaeth mawr.
"Dyma pam rydym yn gofyn i chi gael sgwrs am iechyd meddwl.
"Mae llawer o ffyrdd o wneud i'ch sgwrs gyfri:
Sgwrsiwch â rhywun. Gwnewch baned i gydweithiwr neu ffrind;
Siaradwch am les mewn grŵp. Defnyddiwch ffyrdd o ddechrau sgwrs mewn cyfarfod tîm neu awr paned a siarad;
Siaradwch am iechyd meddwl yn eich sefydliad gan arddangos ein posteri o gwmpas y swyddfa.

Dywedodd rheolwr rhaglen Amser am Newid Cymru, Emily Wooster: "Rydym wrth ein bodd gyda'r gefnogaeth a gawsom gan y cyhoedd, cyflogwyr, gwleidyddion ac eraill i'n Diwrnod Amser i Siarad.
"Fe fyddan nhw i gyd yn helpu i annog pobl i siarad yn fwy agored am iechyd meddwl.
"Gall pethau bach - fel gofyn i rywun sut maen nhw - wneud gwahaniaeth anferth sydd â'r potensial i newid bywyd person.
"Mae Diwrnod Amser i Siarad yn rheswm gwych i bawb siarad am iechyd meddwl ac i fynd â ni i gyd gam yn agosach at ei weld fel pwnc hawdd i siarad yn agored amdano."