Nodi 40 mlynedd ers i 'estroniaid' ddod i Sir Benfro
Mae hi'n 40 mlynedd ers i griw o blant ysgol yn Sir Benfro honni eu bod wedi gweld UFO.
Roedd plant yn Aber Llydan yn dweud eu bod wedi gweld llong ofod ger cae chwarae yn y pentre' yn 1977.
Mae'r digwyddiad yn dal i fod yn fyw ar gof y rheiny oedd yn ei chanol hi a'r rhai fuodd ar drywydd y stori anghyffredin hon.
Adroddiad Aled Scourfield.