Cheltenham 1-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Roedd 'na hwb i obeithion Casnewydd i aros lan wrth iddyn nhw fachu pwynt gyda gôl hwyr yn Cheltenham.
Wedi hanner cyntaf di-sgôr, fe rwydodd Kyle Wootton i'r tîm cartref wedi 62 munud.
Roedd hi'n edrych yn debyg y byddai'r Alltudion yn mynd adre'n waglaw tan i Jaanai Gordon unioni'r sgôr eiliadau cyn i'r dyfarnwr chwythu'r chwiban olaf.
Er gwaethaf y pwynt, mae Casnewydd yn parhau i fod ar waelod Adran Dau, gyda 23 o bwyntiau.