Mosgiau Cymru yn agor eu drysau mewn ymgyrch gymunedol
- Cyhoeddwyd

Mae Canolfan Al-Manar yng Nghaerdydd yn un o'r mosgiau sy'n rhan o'r diwrnod agored
Mae mosgiau ar draws Cymru yn cynnal diwrnod agored ddydd Sul mewn ymgyrch i gryfhau cysylltiadau cymunedol.
Yn ôl y trefnwyr, Cyngor Mwslemaidd Cymru, bydd y cyhoedd yn medru ymweld â'r addoldai a chyfarfod a holi aelodau o'r gymuned.
Mae tri mosg yng Nghaerdydd, ynghyd â safleoedd yng Nghasnewydd, Abertawe, Wrecsam a Bangor yn agor eu drysau.
Mae modd gweld oriau agor y mosgiau ar wefan y cyngor, dolen allanol.
Dywedodd y cyngor eu bod am i bobl ddod o hyd i dir cyffredin yn sgil yr hyn maen nhw'n ei alw'n "densiynau cynyddol yn sgil Brexit a thwf yr asgell dde eithafol".