Cwpan Eingl-Gymreig: Wasps 22-31 Gweilch
- Cyhoeddwyd

Daeth ymgyrch y Gweilch yn y Cwpan Eingl-Gymreig i ben gyda buddugoliaeth yn erbyn Wasps.
Sgoriodd Jay Baker ddau gais, gyda Kieron Fonotia a Hanno Dirksen hefyd yn tirio.
Ond Caerwysg fydd yn mynd i'r rownd nesaf o'r grŵp ar ôl iddyn nhw guro Bryste.
Mae pob un o ranbarthau Cymru allan o'r gystadleuaeth felly.