Rygbi Merched Cymru: Meddyliau'n troi at Loegr
Yn dilyn eu buddugoliaeth yn Yr Eidal ddydd Sadwrn, mae meddyliau tîm rygbi Merched Cymru yn troi at yr hen elyn, Lloegr.
Bydd y gêm yn cael ei chwarae ym Mharc yr Arfau am 11:30 fore Sadwrn, ac mae'r hyfforddwr Rowland Phillips yn gobeithio y bydd hynny'n galluogi i fwy o bobl ddod i gefnogi'r merched cyn i'r dynion chwarae yn Stadiwm Principality yn y prynhawn.
Owain Llyr aeth i'w holi ar ran BBC Cymru.