Cyhuddo chwaraewr Caerdydd o achosi niwed corfforol
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Tomlin arwyddo i Gaerdydd dros yr haf am ffi o bron i £3m
Mae chwaraewr canol cae Caerdydd, Lee Tomlin wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol yn anfwriadol.
Mae'n debyg fod Tomlin ac ymosodwr Accrington Stanley, Billy Kee wedi bod yn rhan o ffrae y tu allan i glwb nos yng Nghaerlŷr ym mis Ionawr eleni.
Roedd Tomlin, 28, yn chwarae i glwb Bristol City ar y pryd.
Dywedodd Caerdydd y byddai'r chwaraewr yn parhau i fod yn rhan o'u carfan am y tro.
'Dim sylw pellach'
Mae disgwyl i'r ddau bêl-droediwr ymddangos yn Llys Ynadon Caerlŷr ym mis Medi mewn cysylltiad â'r diwgyddiad.
Mewn datganiad dywedodd Clwb Pêl-droed Caerdydd eu bod yn "ymwybodol o'r cyhuddiadau sydd wedi'u dwyn yn erbyn Lee Tomlin".
"Ni fydd y clwb yn gwneud unrhyw sylw pellach yn ymwneud â hyn am y tro.
"Bydd Lee yn parhau i fod yn rhan o garfan y tîm cyntaf, ac felly, mae wedi teithio ar gyfer gêm y prynhawn yma yn erbyn Wolverhampton Wanderers."