Rhybudd i ddefnyddwyr trenau i gynllunio o flaen llaw
- Cyhoeddwyd

Mae defnyddwyr trenau wedi cael eu rhybuddio i gynllunio o flaen llaw dros benwythnos Gŵyl y Banc oherwydd gwaith i uwchraddio'r lein ger Caerdydd.
Fe fydd llai o wasanaethau rhwng Casnewydd a Chaerdydd nes 3 Medi, gyda bysiau'n cludo teithwyr o ddydd Sadwrn tan 13:00 brynhawn Llun.
Bydd gwasanaethau i Lundain yn dechrau o Gasnewydd, ac yn mynd drwy Patchway yn hytrach na Bristol Parkway nes 15 Medi.
Cynllunio o flaen llaw
Yn ôl awdurdodau'r gwasanaeth, mae'r gwaith yn "rhan allweddol" o uwchraddio'r lein cyn trydaneiddio.
Dywedodd Network Rail y byddai gwasanaethau'n parhau rhwng Abertawe a Chaerdydd dros Ŵyl y Banc.
Dywedodd Lynne Milligan, Cyfarwyddwr Gwasanaethau'r Cwsmer gyda chwmni Trenau Arriva Cymru: "Byddwn yn gweithio agos gyda'n partneriaid yn Network Rail i sicrhau bod cyn lleied o darfu ar deithiau pobl â phosib tra bod y gwaith hanfodol yma yn digwydd.
"Dylai pob cwsmer gynllunio o flaen llaw fel eu bod yn ymwybodol os fydd amhariad ar eu taith."

Un o'r trenau 'hybrid' newydd
Dywedodd Network Rail y byddai eu peiriannwyr yn gweithio "ddydd a nos" dros y penwythnos er mwyn cwblhau'r gwaith i baratoi ar gyfer gosod y ceblau sydd eu hangen ar gyfer trydaneiddio'r gwasanaeth.
Mae'r gwaith hefyd yn cynnwys dymchwel hanner y bont dros Ffordd y Sblot, a chodi lefel pont gerdded Adamsdown - bydd honno ar gau dros y penwythnos hefyd.