Tirfeddiannwyr â diddordeb cael cath lynx ar eu tir
- Cyhoeddwyd

Mae pum tirfeddiannwr yng Nghymru wedi dangos diddordeb mewn caniatáu i'r gath wyllt lynx fod ar eu tir meddai grŵp gwarchodaeth.
Yn 2015 fe wnaeth Ymddiriedolaeth Lynx Prydain apêl i weld pwy fyddai'n fodlon i'r gath wyllt fyw ar eu tiroedd.
Ac mae'r rhai sydd wedi dweud y bydden nhw yn ystyried gadael i'r anifail fod ar eu caeau yn byw yng nghanolbarth Cymru.
Ond mae Cymdeithas Defaid Cenedlaethol (NSA) wedi dweud nad ydyn nhw eisiau'r "ysglyfaethwyr mwyaf peryglus" yng nghefn gwlad.

Ffeithiau am y gath lynx
Gallu pwyso hyd at 61 pwys a chyrraedd 60cm o ran taldra ac 110cm o hyd;
Tua 50,000 yn byw yn wyllt ar draws Ewrop, Siberia, canol a dwyrain Asia;
Bwyta mamaliaid carniog fel ceirw ac ysglyfaethau fel sgwarnogod.

Yn ôl uwch ymgynghorydd gwyddonol y grŵp gwarchodaeth, Dr Paul O'Donoghue, mae'n allweddol bod y gath yn byw wrth ymyl fforestydd a bod yna geirw yno fel ffynhonnell fwyd.
"Mae pum tirfeddiannwr yng Nghymru wedi dangos diddordeb sydd yn argoeli'n dda i'r dyfodol."
Mae yna bryderon y gallai'r anifail fod yn fygythiad i ddefaid ond diystyru hynny mae Dr O'Donoghue gan ddweud yn Ewrop bod y raddfa fesul blwyddyn yn 0.4 dafad fesul un gath lynx.

Mae yna bryder y byddai'r cathod yn lladd defaid
Dywedodd Prif Weithredwr NSA, Phil Stocker: "Dyw'r NSA ddim eisiau gweld yr ysglyfaethwyr mwyaf peryglus yng nghefn gwlad, nid yn unig am y byddant yn lladd defaid, ond hefyd am ein bod yn credu bod pobl yn caru ein tir...a'r ecoleg am mai ffermwyr defaid sydd yn ei drin."
Pe byddai Ymddiriedolaeth Lynx Prydain eisiau i'r anifail ddod i Gymru byddai yn rhaid iddynt ofyn am drwydded arbennig gan Cyfoeth Naturiol Cymru ond does yna ddim cais wedi ei gyflwyno hyd yn hyn.
Mae Dr O'Donoghue yn dweud eu bod yn "cadw Cymru mewn cof" ond nad ydynt eisiau gormod o leoliadau ar yr un pryd.
"Pan fydd yr amser yn gywir fe fyddwn ni yn edrych ar y safleoedd yn fwy manwl," meddai.