Crystal Palace 0-2 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae'r Elyrch wedi cael eu buddugoliaeth gyntaf yn y tymor newydd ym Mharc Selhurst, Llundain.
Daeth y gôl gyntaf gan yr ymosodwr Tammy Abraham ychydig cyn diwedd yr hanner cyntaf.
Yn fuan yn yr ail hanner y daeth yr ail gan Jordan Ayew gan ladd y gêm.
Roedd amddiffyn yr Elyrch hefyd yn gadarn gan olygu nad oedd cyfle i'r tîm cartref sgorio.
Newcastle fydd gwrthwynebwyr nesaf Abertawe ar Fedi 10, adref yn Stadiwm Liberty.