Dau berson wedi eu harestio wedi cyfres o ladradau
- Cyhoeddwyd

Mae dau berson wedi eu harestio ar ôl i ddau berson arall gael eu brifo mewn cyfres o ladradau yn Rhyl.
Cafodd yr heddlu eu galw tua 23:30 nos Wener.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans bod un person wedi ei anfon i Ysbyty Glan Clwyd.
Mae'r heddlu yn dweud eu bod yn credu bod y lladradau yn gysylltiedig ac yn apelio am dystion.
Mae dau berson yn dal yn y ddalfa.