#40Mawr Radio Cymru 2017
- Cyhoeddwyd

Mae'r genedl wedi pleidleisio. Pa ganeuon sydd wedi dod i frig siart #40Mawr Radio Cymru eleni?
Gan lynu at draddodiad y siartiau dyma i ni ddechrau gyda rhif 40 (mae safle'r llynedd mewn cromfachau)...

40 Elin - Yr Eira
39 Strydoedd Abertsalwm - Bryn Fôn
38 Safwn yn y Bwlch - Hogia'r Wyddfa
37 Chwarelwr - John ac Alun
36 Breuddwyd Roc a Rôl - Edward H (31)
35 Loris Mansel Davies - Welsh Whisperer

Welsh Whisperer - y llais newydd sy'n rhoi'r gorllewin gwyllt ar y map
34 Aros o Gwmpas - Omaloma
33 Drwy dy Lygid Di - Yws Gwynedd#40Mawr Radio Cymru 2017
32 Gwreiddiau - Sŵnami
31 Gwenllian - Calfari
30 Goleuadau Llundain - Daniel Lloyd a Mr Pinc

Hen ffefrynnau yn ôl. Mae Daniel Lloyd a Mr Pinc wedi ail afael ynddi hi yn 2017

29 Lleucu Llwyd - Tebot Piws
28 Dere Mewn - Colorama (21)
27 Trwmgwsg - Sŵnami (23)
26 Hawl i Fyw - Artistiaid Amrywiol (36)
25 Cymru, Lloegr a Llanrwst - Y Cyrff (33)


Mae o flwyddyn yn hŷn na Radio Cymru ac mae ei gân o mor boblogaidd ag erioed

24 Haf 2013 - Fleur De Lys (38)
23 Chwarae'n Troi'n Chwerw - Bando (24)
21 Adra - Gwyneth Glyn (15)
20 Sosban Fach (12)

19 Abacus - Bryn Fôn (25)
18 Heno yn yr Anglesey - Y Bandana (14)
17 Y Cwm - Huw Chiswell (6)
16 Coffi Du - Gwibdaith Hen Frân
15 Ysbryd y Nos - Edward H Dafis (12)

14 Paid â Bod Ofn - Eden
Fideo torfol o glasur Eden yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017

13 Trôns Dy Dad - Gwibdaith Hen Frân (22)
12 Hen Wlad fy Nhadau (9)
11 Anifail - Candelas (13)

A'r 10 uchaf....
10 Rebal Wicend - Bryn Fôn (19)

Y gyntaf o ddwy gân gan Bryn yn y 10 uchaf. Mae o'r un mor boblogaidd ag erioed. Roedd ei gig yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ymhlith y rhai mwyaf cofiadwy yn hanes Maes B.

9 Calon Lân (4)

Calon Lân sy'n ffefryn ar y meysydd rygbi
Mae hi'n dal i fod yn llawn daioni er ei bod hi wedi gostwng bum safle eleni. Tybed wnaeth tymor siomedig y tîm rygbi cenedlaethol ddylanwadu ar y pleidleisio?

8 Anfonaf Angel - Rhys Meirion (7)

Mi wnaeth Robat Arwyn gyfansoddi'r gân yn wreiddiol ar gyfer Bryn Terfel ond dehongliad Rhys Meirion sy'n aros yn y 10 uchaf am yr ail flwyddyn yn olynol. Gyda llaw, Hywel Gwynfryn 'sgwennodd y geiriau.

7 Llwytha'r Gwn - Candelas ac Alys Williams (5)

Candelas ac Alys Williams yn Tafwyl 2016
Mae'r gân yma'n cadw ei lle yn y 10 uchaf. Wyddoch chi bod Alys ac Osian Candelas wedi gwireddu breuddwyd eleni? Mae'r ddau wedi cael y cyfle i ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw!

6 Tŷ Ar y Mynydd - Maharishi (10)

Mae'r band wedi chwalu ers tro ond mae'r gân yn aros yn 10 ucha'r #40Mawr eto eleni.

5 Harbwr Diogel - Elin Fflur (11)

Cafodd y gân ei chyfansoddi gan Arfon Wyn, lleisydd Pererin. Fe wnaeth y grŵp, sy'n cynnwys mam Elin, Nest Llewelyn Jones, berfformio yn y Steddfod eleni am y tro cyntaf ers degawdau. Fydd y fam a'r ferch yn y siart y flwyddyn nesa tybed?

4 Ceidwad y Goleudy - Bryn Fôn (8)

Mae'r gân boblogaidd wedi codi yn y siart eleni ac yn gynharach eleni ymunodd Bryn efo cast Pobol y Cwm. Sgwn i faint o fynd sydd ar y gân ar jiwbocs y Deri?

3 Yma o Hyd - Dafydd Iwan ac Ar Log (3)

Er gwaethaf pawb a phopeth mae Dafydd yn dal yn yr uchelfannau. Fel y gân nesa' yn y siart mae hi wedi cael ei mabwysiadu yn un o anthemau bytholwyrdd dilynwyr byd y campau.

2 Rhedeg i Paris - Anhrefn / Candelas (2)
Mi roddodd Candelas hwb newydd i glasur Yr Anhrefn yn ystod ymgyrch Euro 2016 ar Radio Cymru
Mae'n siwr nad oes 'na gymaint o Gymry wedi mentro i Ffrainc eleni ond mae atgofion melys am Euro 2016 wedi helpu'r gân eiconig yma i aros yn yr ail safle. Wrth gwrs mae'ch fideo CHI wedi helpu hefyd!

1 Sebona Fi - Yws Gwynedd (1)

Llongyfarchiadau i Yws ar gyrraedd y brig unwaith eto eleni. Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur arall gyda'r albwm newydd Anrheoli yn gwerthu fel cêcs poeth.