Boreham Wood 0-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae Alex Reid ar fenthyg yn Wrecsam o Fleetwood Town
Trydedd gôl Alex Reid mewn pedair gêm gipiodd y tri phwynt i Wrecsam yn erbyn Boreham Wood.
Fe sgoriodd Reid unig gôl y gêm gyda pheniad o gic gornel Paul Rutherford wedi ychydig dros awr.
Yr ymwelwyr gafodd y cyfleoedd gorau er gwaethaf dechrau da'r tîm cartref i'r tymor.
Mae Wrecsam yn dringo i'r pedwerydd safle yn y Gynghrair Genedlaethol, tri phwynt oddi ar y brig.