Gwobr addysg y Loteri Genedlaethol i brosiect ap Magi Ann
Mae prosiect i ddod â llyfrau Cymraeg yn fyw drwy gyfrwng apiau ffôn wedi ennill gwobr Brydeinig.
Fe ennillodd prosiect Magi Ann Wobr y Loteri Genedlaethol am brosiect addysg gorau'r DU mewn pleidlais gyhoeddus.
Mae'r wobr yn dod gyda £5,000, a dywedodd Gill Stephen o Fenter Iaith Fflint a Wrecsam - sy'n rhedeg y prosiect - y gallai hyn olygu y byddan nhw'n datblygu ap tebyg yn y dyfodol.