Caerdydd yn arwyddo Craig Bryson a Liam Feeney
- Cyhoeddwyd

Mae Craig Bryson wedi cynrychioli'r Alban ar dri achlysur
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi arwyddo'r chwaraewyr canol-cae Craig Bryson o Derby a Liam Feeney o Blackburn ar fenthyg.
Fe wnaeth Bryson, 30, ymuno â Derby o Kilmarnock yn 2011, a bydd ar fenthyg gyda'r Adar Gleision nes diwedd y tymor.
Bydd Feeney, 30, yn ymuno o Blackburn Rovers yn Adran Un tan fis Ionawr.
Yn y cyfamser, mae pedwar chwaraewr wedi gadael y clwb o'r brifddinas - un yn barhaol a thri ar fenthyg.

Fe wnaeth Liam Feeney ymuno â Blackburn yn haf 2016
Mae'r asgellwr Craig Noone wedi symud i Bolton Wanderers ar gytundeb dwy flynedd, a dyw'r clybiau ddim wedi datgelu maint y ffi gafodd ei dalu
Bydd y cefnwr chwith Declan John yn treulio'r tymor gyda Rangers yn Uwch Gynghrair yr Alban, tra bod y chwaraewyr canol-cae, Stuart O'Keefe a Matthew Kennedy, yn ymuno â Portsmouth yn Adran Un.