Dod o hyd i facteria allai atal nwy tŷ gwydr

  • Cyhoeddwyd
Scientists conducting the studyFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn dweud y gallai bacteria sydd wedi'i ganfod mewn llyn o dan Antarctica atal methan rhag cael ei ryddhau i'r atmosffer wrth i lenni iâ ddadleth.

Yn dilyn astudiaeth ar y cyd gydag ymchwilwyr o daleithiau Louisiana a Montana, mae'r gwyddonwyr o Gymru yn dweud y gallai'r bacteria sy'n bwyta methan fod yn "hidlwr-bio".

Mae'r gwaith ymchwil sydd wedi cael ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Y Nature Geoscience yn honni y gallai'r bacteria atal nwy tŷ gwydr rhag gael ei ryddhau i'r atmosffêr wrth i'r iâ doddi.

Yn ystod y cyfnod ymchwil, mae gwyddonwyr wedi bod yn dadansoddi samplau o Lyn Whillans, 800 metr (2,600 trdfdd) is na Llen Iâ Gorllewin Antarctig - llen a gafodd ei drilio yn 2013.

Un sydd wedi bod yn rhan 'r gwaith ymchwil yw Andrew Mitchell, o Brifysgol Aberystwyth.

Dywedodd mai dyma'r tro cyntaf i wyddonwyr wneud astudiaeth fanwl o fethan o dan len iâ, a bod y canlyniadau yn ddifyr ac o bosib yn allweddol.