ONS: 'Mwy yn marw mewn ardaloedd tlawd na chyfoethog'

  • Cyhoeddwyd
Tai

Mae nifer y marwolaethau y gellid eu hosgoi yn sylweddol uwch mewn ardaloedd tlawd Cymru o'i gymharu â'r ardaloedd mwy cyfoethog, yn ôl adroddiad.

Daeth ymchwil y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) i'r canlyniad bod dwy waith gymaint o farwolaethau o achosion y gellir eu hosgoi yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, o'i gymharu a'r ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r broblem.

Ond mae elusennau tlodi wedi dweud bod angen gwneud mwy.

Fe edrychodd yr ONS ar farwolaethau yng Nghymru a Lloegr yn 2015 allai fod wedi eu hosgoi drwy "ofal iechyd amserol ac effeithiol" neu "ymyrraeth iechyd cyhoeddus".

Nid oes modd cymharu'r gyfradd rhwng Cymru a Lloegr gan fod mesuryddion gwahanol o dlodi yn cael eu defnyddio.

High street

Yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru:

  • Roedd cyfradd marwolaethau y gellid eu hosgoi yn uwch mewn dynion - 544 i bob 100,000 - na merched - 334 i bob 100,000;

  • Roedd dynion dair gwaith yn fwy tebygol o farw o achos yr oedd modd ei osgoi na dynion yn yr ardaloedd mwyaf cyfoethog;

  • Roedd merched 2.4 gwaith yn fwy tebygol o farw o achos yr oedd modd ei osgoi na merched yn yr ardaloedd mwyaf cyfoethog.

Yng Nghymru roedd 1,054 o farwolaethau y gellid eu hosgoi yn ardaloedd tlotaf y wlad, o'i gymharu a 509 yn yr ardaloedd mwyaf cyfoethog.

Yn Lloegr roedd y ffigyrau yn 16,686 a 7,247 yn yr un categoriau.

'Anghyfartaledd'

Yn ôl yr ymchwiliad, roedd y rhesymau am salwch yn cynnwys ffyrdd pobl o fyw, a hefyd "anghyfartaledd yn argaeledd a safon gofal".

Dywedodd ystadegydd yr ONS, Dr Annie Campbell bod y cysylltiad rhwng marwolaethau gellid eu hosgoi a thlodi gryfaf ym maes salwch anadlol.

Ychwanegodd mai ysmygu yw un o'r ffactorau mwyaf tebygol i'r cysylltiad.

"Ond yr achosion o salwch y galon a chanser yw'r meysydd lle mae modd lleihau'r gwahaniaethau rhwng ardaloedd mwy a llai difreintiedig," meddai.

"Bydd cau'r bylchau mewn marwolaethau o'r clefydau yma yn golygu buddion i'r nifer fwyaf o bobl."

YsmyguFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr adroddiad bod ysmygu yn debyg o fod yn reswm am y cyslltiad rhwng tlodi a salwch anadlol

Yn ôl Oxfam Cymru, mae'r ffigyrau yn tanlinellu'r gwaith sydd angen ei wneud i leihau tlodi.

Dywedodd Ben Lloyd o'r elusen: "Er ein bod yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn lleihau tlodi, mae'n dangos bod y dulliau sydd wedi eu defnyddio ddim mor effeithiol ag y gallen nhw fod."

Fe wnaeth Sefydliad Bevan adlewyrchu'r safbwynt, gan alw am "weithredu unedig gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a busnesau i gael gwared ar incwm isel a thlodi".

'Effaith hirdymor'

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod iechyd yn ddibynnol ar amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd, ffordd o fyw, yr amgychedd a gofal iechyd.

Dywedodd llefarydd: "Rydym yn parhau i weithredu ar bob un maes, gydag esiamplau diweddar yn cynnwys pasio Mesur Iechyd Cyhoeddus (Cymru) a chyhoeddi cynllun gweithredu i gymoedd y de yn ddiweddar..."

Ychwanegodd bod ymdrechion i daclo ysmygu yn parhau tuag at y targed o leihau lefelau i 16% erbyn 2020, ac y bydd yn "cael effaith bositif hirdymor yn y dyfodol".

Straeon perthnasol