Dyn yn euog o lofruddio Jan Jedrzejewski yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd

Bu farw Jan Jedrzejewski yn yr ysbyty wedi'r digwyddiad
Mae dyn wedi ei gael yn euog o lofruddio dyn o Wlad Pwyl gafodd ei ddarganfod yn anymwybodol ar y stryd.
Cafwyd Richard Wallis, 43, yn euog gan reithgor o lofruddiaeth Jan Jedrzejewski, 41, yng Nghasnewydd.
Bu farw Mr Jedrzejewski yn yr ysbyty wedi'r ymosodiad ar Heol Keene ar Ionawr 12.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd bod Mr Jedrzejewski wedi dioddef anafiadau "difrifol".
Roedd Wallis wedi cicio Mr Jedrzejewski wrth iddo orwedd ar y llawr.
Mae achos tri dyn arall yn ymwneud a'r digwyddiad yn parhau, a bydd Wallis yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach.