Y Swistir dan-21 0-3 Cymru dan-21
- Cyhoeddwyd

Ymunodd David Brooks â Sheffield United yn Ionawr 2016
Cafodd tîm dan-21 Cymru ddechrau da i'w hymgyrch Euro 2019 gyda buddugoliaeth o 3-0 dros Y Swistir yn Biel.
Rhwydodd Tyler Roberts yn gynnar yn y Tissot Arena, cyn i David Brooks sgorio ar ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ers chwarae dros Loegr yn Nhwrnament Toulon.
Ar ôl chwarae ei ran yn y ddwy gôl gyntaf, sgoriodd George Thomas gôl iddo ei hun yn yr amser ychwanegol ar ddiwedd y gêm.
Bydd tîm Robert Page yn herio Portiwgal yn y gêm nesaf ddydd Mawrth.